Ogof Athur |
![]()
|
Ers talwm, roedd ffermwyr
Cymru yn danfon eu gwartheg i Lloegr iw gwerthu. Roedd porthmyn yn gofalu am y gwartheg, ac yn cerdded yr holl fforrdd i Lundain. |
| Unwaith, ar y ffordd i Lundain, torrodd un
or porthmyn ffon allan o frigyn coeden. Ar ol cyrraedd Llundain, gofynnodd Dewin iddo o ble cafodd y ffon, a dywedodd y porthmon wrtho. |
|
|
Aeth y porthmon ar Dewin yn ol at y
goeden lle cafwyd y ffon. Dechreuodd y ddau dyllu wrth waelod y goeden. Daethant o hyd i risiau yn mynd i lawr at ogof. |
| Aethant
i mewn ir ogof a gweld trysor, milwyr a bwrdd crwn yno.
Dywedodd y Dewin mair brenin Arthur ai farchogion oeddynt, a bod yn rhaid iddynt fod yn ddistaw rhag ofn eu deffro. |
|
![]() |
Casglodd y Dewin lwythi o aur
ai roi yn ei boced. Yn un rhan or ogof roedd cloch, a chanodd y porthmon y gloch. |
| Bloeddiodd
un milwr
"Pwy ganodd y gloch? A yw Cymrun barod i ni?" "Na, daliwch i gysgu" meddair Dewin Deffrodd mwy or milwyr ond dywedodd y Dewin eto- "Cwsg ymlaen o Frenin" Cysgodd y milwyr ar brenin unwaith eto. |
|
![]() |
Rhedodd y porthmon ar Dewin allan
or ogof a diflannodd y dewin am byth o olwg y porthmon. Am fisoedd ar ol hyn, bur porthmon yn chwilio yn ddyfal am geg yr ogof, ond ni ddaeth o hyd iddi. Maer brenin Arthur ai farchogion yn parhau i gysgu, ac yn aros nes bydd Cymru angen iddynt ddeffro. |