backarrow

Gelert

home.jpg (1851 bytes)cartref

line.jpg (3222 bytes)

b1.jpg (10438 bytes)

Roedd y Tywysog Llewelyn yn mynd i hela am y diwrnod.

Er iddo chwilio ym mhobman, methodd a dod o hyd i Gelert, ei gi gorau.

Bu Gelert yn crwydro hyd y lle, ac ar ol i Llewelyn fynd ar yr helfa, aeth draw i’r llofft lle’r oedd mab y tywysog yn gorwedd yn braf yn ei grud..

bp8.jpg (8511 bytes)

bp6.jpg (9247 bytes)

Yn fuan iawn, roedd Gelert yn cysgu hefyd, ond yn sydyn cododd ei glust pan glywodd swn wrth y drws.

Agorodd ei lygaid, a gwelodd fod blaidd mawr yno.

Daeth y blaidd i mewn i’r ystafell wely, a sefyll wrth ymyl crud y baban bach, gan wyro ac agor ei geg yn barod i’w fwyta.

bp5.jpg (13373 bytes)

bp7.jpg (7514 bytes) Cododd Gelert ar ei draed gan chwyrnu’n gas ar y blaidd.

Bu’r ddau yn ymladd yn ffyrnig, a thaflwyd y crud ar y llawr. Roedd golwg mawr ar y lle, gyda’r llenni a’r dillad ar y llawr ym mhobman.

Llwyddodd y ci i gael y gorau ar y blaidd, a syrthiodd y blaidd yn farw i’r llawr.

Clywodd Llewelyn yn dychwelyd a chododd ar ei draed.

Roedd yn waed o’i gorryn i’w sawdl.

bp2.jpg (9891 bytes)

bp3.jpg (9014 bytes) Cerddodd Llewelyn yn syth i lofft y mab bach, a dyna fraw a gafodd pan welodd y fath annibendod. Doedd dim son am y baban bach, a chredodd yn siwr fod Gelert wedi ei ladd a’i fwyta. Cydiodd yn ei gleddyf, a thrywanodd y ci gyda un ergyd farwol.
Eiliadau yn ddiweddarach, clywodd swn crio wrth y llenni, ac wedi iddo symud rhai o’r dillad, gwelodd bod ei fab bach yn fyw ac yn iach. Gwelodd hefyd , y blaidd yn farw wrth grud ei blentyn, a sylweddolodd ei fod wedi gwneud camgymeriad mawr. Roedd Gelert wedi gofalu am y plentyn bach , ac wedi lladd y blaidd.

bp4.jpg (9780 bytes)

bp9.jpg (9818 bytes) Teimlai Llewelyn yn drist iawn, ac er mwyn tawelu ychydig ar ei gydwybod, gwnaeth fedd arbennig i gofio am ei gi annwyl.

Mae’r bedd mewn dol brydfertth gyda maen uchel yno i ddangos lle claddwyd y ci ffyddlon.