wales.gif (12639 bytes)    Back

Gwasanaeth Bedydd

home.jpg (1851 bytes)
Home

line.jpg (3222 bytes)

Mae’r rhan fwyaf o fabanod Cristnogol yn cael eu bedyddio pan maen nhw ychydig wythnosau oed mewn Eglwys neu Gapel.Yn y gwasanaeth bedydd, bydd y rhieni a’r rhieni bedydd yn gwneud addewid i ddwyn y plentyn i fyny i gredu yn Nuw ac yn Iesu Grist. Bydd y seremoni yn atgoffa Cristnogion am fedydd Crist gan Ioan Fedyddiwr.

Y Ficer sydd yn bedyddio’r babi yn yr Eglwys
Y bedyddfaen yw’r cynhwysydd sy’n dal y dwr ar gyfer y bedydd.

Fel arfer bydd y bedyddfaen wrth ddrws yr Eglwys gan bod y lleoliad yn symbol o’r bedydd fel gwasanaeth pryd mae’r unigolyn yn cael ei groesawu i’r teulu Cristnogol..

Bydd y Ficer yn gwasgaru’r dwr a gwneud arwydd y groes ar dalcen y babi.

Ar yr un pryd rhoddir ei enw bedydd i’r babi. Mae’r dwr yn symbol Cristnogol pwysig . Mae’r dwr mewn bedydd yn symbol o lanhau pechod.

Dewisir oedolion arbennig i fod yn rhieni bedydd.

Mae nhw’n addo helpu’r plentyn i fyw yn ol y ffydd.

Rhoddir cannwyll a oleuir wrth yr allor i’r rhieni neu i’r rhieni bedydd pan fedyddir y plentyn.

Mae’r gannwyll yn arwydd sydd yn croesawu’r plentyn i fod yn aelod o’r teulu Cristnogol, a bydd yn cael ei goleuo bob blwyddyn ar ben blwydd y bedydd.

Fel rheol bydd parti yn cael ei gynnnal ar ol y gwasanaeth i ddathlu’r bedydd.